Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Ebrill 2018
Amser:
09.15 -
12.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4794
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC David Rees AC (yn lle Julie Morgan AC) Mark Reckless AC |
Tystion: |
Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC; roedd David Rees yn bresennol fel dirprwy.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog ynghylch cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu nodyn am y rhesymeg dros y cynnig yn dechrau
yn y tymor yn dilyn trydydd pen-blwydd y plentyn ac asesiad
Llywodraeth Cymru o effaith bosibl y dull gweithredu hwn ar blant
sy'n cael eu geni yn yr haf.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
· Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – cyllid ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig
· Llythyr at y Cadeirydd gan y Cynghorydd Rob Jones (arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot) ynglŷn â'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig
· Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol – gwybodaeth bellach gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mawrth
· Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol – gwybodaeth bellach gan Ein Rhanbarth ar Waith yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mawrth
· Gohebiaeth y Pwyllgor ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS)
· Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Safon dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru
· Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – dod â’r Grant Gwisg Ysgol i ben o 2018-19 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 22 Mawrth
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer y Bil.
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y materion allweddol. Caiff adroddiad drafft ei drafod
mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr gan y Llywydd ac i wneud rhywfaint o waith ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd sy'n codi ym maes addysg uwch ac addysg bellach yn sgil Brexit.